21 Mai 2013
Cyngherddau Awr Ginio-Jonathan Biss
1:00 PM
Fel perfformiwr a cherddor siambr ymroddedig mae’n chwarae’n gyson yn y Gyfres Datganiadau yn yr UD ac yn Ewrop ac mae wedi agor y Gyfres Biano Feistr yn y Concertgebouw ddwywaith..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr21 Mai 2013
Mike Oldfield's Tubular Bells For Two
7:30 PM
40th Anniversasry Concert Tour Two talented Australian musicians playing over twenty instruments bring to life Mike Oldfield’s seminal album Tubular Bells in a unique theatrical performance..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr21 Mai 2013
Strauss' Also Sprach Zarathustra
7:30 PM
Also sprach Zarathustra (Dyma ddywed Zarathustra) yw un o gampweithiau mwyaf beiddgar Strauss, gan agor gyda’i wawr eiconig dros fyd du, a symud trwy hapusrwydd ac emosiynau cythryblus bywyd a diweddu ym moddhad dedwydd ei dudalennau olaf..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr21 Mai 2013
21 Mai 2013
Bill Bailey:Qualmpeddler
8:00 PM
Bill Bailey had Doubts about the modern world, but these have now grown into Qualms. He will be channeling these feelings of Unease and Apprehension, with the help of Religious Dubstep..
Rhagor o Wybodaeth21 Mai 2013
Psychic Sally On The Road
7:30 PM
Star of Living's Psychic Sally On The Road, Britain's favourite TV psychic, Sally Morgan, returns with her outstanding 2013 nationwide tour
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr21 Mai 2013
That'll Be The Day
7:30 PM
Prepare yourself for a party as the legendary That’ll Be The Day, the nations favourite rock ‘n’ roll variety show returns by popular demand with our ‘Brand New Production’ for 2013..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr21 Mai 2013
Yng nghalon Caerdydd, prifddinas Cymru, Neuadd Dewi Sant ydi Neuadd Gyngerdd Genedlaethol a Chanolfan Gynadledda Genedlaethol Cymru. Mae yma amrywiaeth eang o adloniant byw, arddangosfeydd am ddim, cynadleddau, gweithdai cymryd rhan, dau far ac amrywiaeth o lefydd i fwyta, staff cymwynasgar ac amgylchfyd hamddenol ac mae Neuadd Dewi Sant yn adeilad i’w fwynhau liw dydd a chyda’r nos trwy’r flwyddyn gron.
Neuadd Dewi Sant ydi cartref Proms Cymru Caerdydd, y Gyfres Cyngherddau Cerddorfaol sydd gyda goreuon y byd ac sy’n rhoi llwyfan i gerddorfeydd, unawdwyr ac arweinwyr blaenllaw’r byd, a chystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob yn ddwy flynedd, ac mae’n cyflwyno lliaws o adloniant byw, gan gynnwys pop, roc, canu gwerin, jazz, rhythm a’r felan, comedi, sioeau plant, cyngherddau awr ginio, dramâu cerdd, adloniant ysgafn, dawns, cerddoriaeth y byd, ffilmiau a cherddoriaeth glasurol.
Ond mae Neuadd Dewi Sant yn fwy na dim ond neuadd gyngerdd - a chanddi gynteddau eang, barrau lolfa a bwyty mae hefyd yn lle i gyfarfod am goffi, cinio neu bryd o fwyd dathlu. At hynny mae yma arddangosfeydd rheolaidd a chynadleddau cwmni blynyddol, ac mae rhywbeth ar fynd agos i bob diwrnod trwy’r flwyddyn gron.
Mae Neuadd Dewi Sant yn eiddo, dan reolaeth a than nawdd Cyngor Sir Caerdydd gyda chymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
I’r penseiri Seymour Harris Partnership roedd cynllunio Neuadd Dewi Sant yn gomisiwn anghyffredin, os nad heb ei ail, am sawl rheswm. Y bennaf her oedd sut i ddarparu neuadd gyngerdd fawr â 2,000 o seddi yn y lle cyfyng oedd ar gael ac i gymhlethu hyn ymhellach roedd rhaid gwasgu’r adeilad i ganolfan siopa oedd eisoes wedi’i chynllunio ac ar hanner ei chodi.
Y canlyniad oedd, choeliech chi fawr o fewn pum mlynedd o synio amdani hyd at ei chwblhau, codi neuadd gyngerdd drawiadol â lle i 2,000 a chanddi, gellid dadlau, yr acwsteg orau yn Ewrop, yn union dros ben rhodfa siopa Canolfan Dewi Sant. At hynny, mae gan yr adeilad swyddfeydd, ystafelloedd gwisgo cynhwysfawr, ystafelloedd cyfarfod a chyfleusterau cynadledda, dau le i fwyta, arddangosfeydd ar dri llawr, a man croeso eang.
Gwelodd hydref 1982 ddyddiau cynhyrfus yn y Neuadd Dewi Sant newydd. Denodd y ‘diwrnod agored’ arbennig ar 30 Awst 1982 21,000 o bobol; naw niwrnod yn ddiweddarach daeth y cyngerdd cyhoeddus cyntaf, ymarfer agored am ddim gan Gôr Polyffonig Caerdydd. Erbyn i’r Fam Frenhines berfformio’r agoriad swyddogol ym mis Chwefror 1983, roedd Neuadd Dewi Sant eisoes wedi gweddnewid bywyd artistig y Brifddinas. Ys dywedodd Ei Mawrhydi, ‘This exciting development will add greatly to the quality of life for the city of Cardiff and the people of the Principality.’
Mae Caerdydd, prifddinas Cymru, yn cynnig adloniant, chwaraeon, llefydd i fwyta, cyfleusterau hamdden, llefydd o ddiddordeb i roi tro amdanyn nhw a phennaf ddigwyddiadau yn rheolaidd, gyda denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae Neuadd Dewi Sant yn dal i fod yn un o’r oedfannau blaenllaw yn natblygiad diwylliannol a pharhaol Caerdydd yn un o’r dinasoedd mwyaf cosmopolitanaidd yn Ewrop.