Amdanom ni Beth sydd ymlaen Sut i godi tocynnau Cyfloedd busnes Profiad y Cyfeillion
Profwch Bob Maes Bywd a diod Sut i gael hyd i ni Gwasanathau ar gyfer cwsmeriaid anabl
Ymunwch a'n rhestrau post ni Cyfleusterau cynadledda Orielau'r cynteddau Siopa Cysylltau
English
Image map for Virtual Auditorium and Virtual Tour graphical features  
Newyddion diweddaraf

03/07/08
Mae mynediad i'r Aes o'r de ar gau i draffig o ddydd Llun 22 o Ionawr ymlaen.

Cysylltau

BBC Canwr y Byd Caerdydd

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Cyngor Caerdydd

John Good

New Theatre

St David's Phase 2

Theatr y Sherman

Theatre Tokens

Visit Cardiff

Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

BWRDD CROESO CYMRU

Cymdeithas Jazz Cymru

OPERA CENEDLAETHOL CYMRU

Cystadleuaeth i Gantorion Cymreig

A wnewch chi nodi na ellir dal Neuadd Dewi Sant yn gyfrifol am na hygyrchedd na chynnwys y cysylltau ar y dudalen yma.

Image of auditorium
Image of stained glass window
Cysylltu a ni

Neuadd Dewi Sant,
Yr Aes,
Caerdydd CF10 1AH

Swyddfa Docynnau
029 2087 8444
(Ar agor 10.00am tan 6.00pm, neu tan 8.00pm pan fydd yna berfformiad gyda’r hwyr)

Y Dderbynfa
029 2087 8500

Ffacs
029 2087 8599

E-bost
st.davidshallreception
@cardiff.gov.uk
Exterior photograph of St David's HallAmdanom ni

Yng nghalon Caerdydd, prifddinas Cymru, Neuadd Dewi Sant ydi Neuadd Gyngerdd Genedlaethol a Chynadleddfa Genedlaethol Cymru. Â’i dewis eang o adloniant byw, arddangosfeydd am ddim, cynadleddau, gweithdai cymryd rhan, dau far a dewis o lefydd i fwyta, staff parod eu cymwynas ac amgylchedd hamddenol, mae Neuadd Dewi Sant yn adeilad i’w fwynhau liw dydd a chyda’r hwyr trwy’r flwyddyn gron.

Cartref Proms Cymru bob blwyddyn, y Gyfres Cyngherddau Cerddorfaol o safon byd sy’n rhoi llwyfan i gerddorfeydd, unawdwyr ac arweinwyr blaena’r byd a’r gystadleuaeth enwog Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, mae Neuadd Dewi Sant yn cyflwyno hylltod o adloniant byw, gan gynnwys pop, roc, cân werin, jazz, rhythm a’r felan, comedi, sioeau plant, cyngherddau awr ginio, dramâu cerdd, adloniant ysgafn, dawns, cerddoriaeth y byd, ffilmiau a cherddoriaeth glasurol.

Fodd bynnag, mae Neuadd Dewi Sant yn fwy na dim ond neuadd gyngerdd, gyda chynteddau eang, barrau lolfa a bwyty, mae hefyd yn lle i gyfarfod am goffi, cinio neu bryd o fwyd i ddathlu. A bwriwch bod yna arddangosfeydd rheolaidd a chynadleddau cwmnïau blynyddol, ac mae yna rywbeth yn mynd ymlaen bron bob dydd o’r flwyddyn.

A pheidiwch ag anghofio mynd â rhywbeth i gofio adref gyda chi o’r amrywiaeth eang o anrhegion a chardiau Cymreig sydd ar werth yn ein siop yn y cyntedd.

Yn unol â Pholisi Cyngor Caerdydd bydd Neuadd Dewi Sant yn oedfan Dim Ysmygu o Ebrill 1 2005 ymlaen.

Exterior photograph of St David's HallGwybodaeth gefndir yn fyr

I’r penseiri Partneriaid Seymour Harris, roedd cynllunio Neuadd Dewi Sant yn gomisiwn anarferol, os nad unigryw, am sawl rheswm. Yr her bennaf oedd sut i ddarparu neuadd gyngerdd fawr â 2,000 o seddi yn y lle cyfyng oedd ar gael ac i gymhlethu hyn fwyfwy, roedd rhaid gwasgu’r adeilad i ganolfan siopa oedd eisoes wedi’i chynllunio ac ar hanner ei chodi. Y canlyniad oedd, o fewn pum mlynedd anhygoel o’r syniad i’r cwblhau, codi neuadd gyngerdd drawiadol â 2,000 o seddi, a chanddi – gellid dadlau – yr acwsteg orau yn Ewrop yn union uwchben marchnadfa Dewi Sant. Yn ogystal, mae gan yr adeilad swyddfeydd, ystafelloedd gwisgo hollgynhwysfawr, ystafelloedd cyfarfod a chyfleusterau cynadledda, dau le bwyta, arddangosfeydd ar dri llawr, man croeso eang a siop.

Gwelodd hydref 1982 ddyddiau cyffrous yn adeilad newydd Neuadd Dewi Sant. Fe fu i’r ‘diwrnod agored’ arbennig ar 30 o Awst ddenu 21,000 o bobol; naw niwrnod yn ddiweddarach daeth y cyngerdd cyhoeddus cyntaf, ymarfer agored am ddim gan y Côr Polyffonig. Erbyn i’r Fam Frenhines berfformio’r agoriad swyddogol ym mis Chwefror 1983, roedd Neuadd Dewi Sant eisoes wedi gweddnewid bywyd artistig y Brifddinas. Ys dywedodd ei Mawrhydi, ‘This exciting development will add greatly to the quality of life for the city of Cardiff and the people of the Principality.’

Mae Caerdydd, prifddinas Cymru, yn cynnig adloniant, chwaraeon, llefydd bwyta, cyfleusterau hamdden, llefydd o ddiddordeb i ymweld â nhw a digwyddiadau o bwys yn rheolaidd, gan ddenu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae Neuadd Dewi Sant yn dal i fod yn oedfan flaenllaw yn natblygiad parhaol a diwylliannol Caerdydd yn un o ddinasoedd mwyaf cosmopolitanaidd Ewrop.

Cyngor Dinas Caerdydd sy'n berchen ar Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru a sy'n ei rheoli ac yn ei hariannu. Noddir Neuadd Dewi Sant gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Virtual Auditorium (opens in a new window) Virtual Tour (opens in a new window)