Amdanom ni Beth sydd ymlaen Sut i godi tocynnau Cyfloedd busnes Profiad y Cyfeillion
Profwch Bob Maes Bywd a diod Sut i gael hyd i ni Gwasanathau ar gyfer cwsmeriaid anabl
Ymunwch a'n rhestrau post ni Cyfleusterau cynadledda Orielau'r cynteddau Siopa Cysylltau
English
Image map for Virtual Auditorium and Virtual Tour graphical features Virtual Auditorium (opens in a new window) Virtual Tour (opens in a new window)
A2: Arts Active, the new name for the education, community and audience engagement programme

Ein hysbrydoliaeth ydi rhaglenni amrywiol Neuadd Dewi Sant a'r New Theatre a rydym yn eu defnyddio'n sbardun grymus gwaith creadigol: ein hamcan ydi symbylu pobol, o'r ieuaf i'r hynaf, i ddod yn rhan o weithgaredd yn y celfyddydau ac i'w fwynhau.

Byddwch yn dal i weld yr un cyweithiau tan gamp yn y celfyddydau oedd yn ffurfio rhaglen Profwch Bob Maes Neuadd Dewi Sant ond bydd yna fwy o fentrau sy'n gweithio ar hyd ac ar led Neuadd Dewi Sant a'r New Theatre ill dwy, gan wneud y mwyaf o brif oedfannau canol dinas Caerdydd.

Cerddoriaeth Cyn Oed Ysgol
dyddiau Gwener
12.00pm–1.00pm neu
1.30pm-2.30pm

Neuadd Dewi Sant, Lefel 5
Tymor yr hydref yn dechrau 6 o Hydref

Cwrs o sesiynau cerddoriaeth sy’n hwyl i oedolion a phlant gael blas arnyn nhw gyda’i gilydd. Mae hwn yn un o hoelion wyth poblogaidd rhaglen yr Actifyddion Artistig ac mae dan arweiniad Helen Woods, cyfansoddwr y Tidli Prom.

Am fwy o wybodaeth a wnewch chi roi caniad i
029 2087 8573
neu ebostio artsactive@cardiff.gov.uk

CYMRYD RHAN
Byddwch yn Greadigol
Dewch i gael blas ar y wefr o wneud rhywbeth eich hun, trwy ein rhaglen o sesiynau Rhoi Cynnig, Gwneud cyrsiau byr a chyweithiau arbennig eraill megis ein hysgol haf i gerddorion ifainc o bob lliw a llun..
CHWANEGION PERFFORMIADAU
Byddwch yn Wybodus
Dewch i gyfarfod y bobol y tu ôl i'r perfformiadau, eu holi, clywed am eu syniadau a beth sydd ganddyn nhw mewn golwg yn ein seiadau Sgwrsio, a chwilio cerddoriaeth gerddorfaol gyda'n nodiadau cyngerdd, Chwanegion Perfformiadau.
Gwnewch yn fawr o werth addysgiadol Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru a'r New Theatre. Mae A2: Actifyddion Artistig yn helpu athrawon ysgol i fynd i gyngerdd neu'r theatr yn symbyliad ac yn sylfaen gwaith ystafell ddosbarth. Mae gennym raglen o weithdai ysgol, pecynnau gwaith ystafell ddosbarth, cyweithiau yn y celfyddydau a digwyddiadau arbennig sydd wedi'u llunio i gefnogi'r cwricwlwm cenedlaethol.

Am ragor o wybodaeth am raglen A2: Actifyddion Artistig a'r cyweithiau, y digwyddiadau a'r mentrau sydd ar fynd ar hyn o bryd, cysylltwch â David Baxter ar 029 2087 8571.
Mae Profwch Bob Maes yn bosib yn sgîl cefnogaeth hael cwmnïau ac ymddiriedolaethau.
Os hoffech chi wybod sut i gefnogi Profwch Bob Maes cysylltwch â’n Adran Ddatblygu.

Carem ddiolch yn arbennig i'r cwmnïau sy'n dilyn am eu cefnogaeth yn ddiweddar:
Barclays
The BRIT Trust
Sefydliad Chwaraeon a'r Celfyddydau
The Garfield Weston Foundation
GC Gibson Charitable Trust
The Jane Hodge Foundation
Lloyds TSB Foundation
The Paul Hamlyn Foundation
The Pilgrim Trust
Ymddiriedolaeth Neuadd Dewi Sant a'r New Theatre
Western Power Distribution

Cwrs MusicMix 08
Mawrth 29 Gorffennaf - Gwener 1 Awst
Summerdance
Sadwrn 9 Awst


Try Gamalan
Rhowch Gynnig ar y Gamelan

Try Gospel
Rhowch Gynnig ar Ganu’r Hwyl

Stage Fighting
Rhowch Gynnig ar Ymladd Llwyfan

Try Harmonica
Rhowch Gynnig ar yr Harmonica