Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Am y Neuadd

Trydar fel aderyn bach

Ry’n ni wrth ein boddau’n gweld eich Trydar a’ch sylwadau Facebook ac mae’n wych eich bod am roi gwybod i pobl am yr amser da rydych yn ei gael. Ond er cyfforddusrwydd aelodau eraill y gynulleidfa, peidiwch â defnyddio’ch ffôn na’ch dyfeisiau rhyngrwyd oni bai yn ystod yr egwyl neu cyn ac ar ôl y gyngerdd. Dylech ddiffodd bob ffôn neu ddyfais arall yn ystod y perfformiad ei hun.

Am y Neuadd

Yng nghalon Caerdydd, prifddinas Cymru, Neuadd Dewi Sant ydi Neuadd Gyngerdd Genedlaethol a Chanolfan Gynadledda Genedlaethol Cymru. A chanddi ei hamrywiaeth helaeth o adloniant byw, cynedleddau, gweithdai cymryd rhan, dau far a Lolfa Jin, staff cyfeillar ac amgylchfyd braf, mae Neuadd Dewi Sant yn adeilad i’w fwynhau drwy’r flwyddyn gron.

Neuadd Dewi Sant ydi cartref Proms Cymru Caerdydd, y Gyfres Cyngherddau Cerddorfaol sydd gyda goreuon y byd ac sy’n rhoi llwyfan i gerddorfeydd, unawdwyr ac arweinwyr blaenllaw’r byd, a chystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob yn ddwy flynedd, ac mae’n cyflwyno lliaws o adloniant byw, gan gynnwys:

  • pop
  • roc
  • canu gwerin
  • jazz
  • rhythm a’r felan
  • comedi
  • sioeau plant
  • cyngherddau awr ginio
  • dramâu cerdd
  • adloniant ysgafn
  • dawns
  • cerddoriaeth y byd
  • ffilmiau
  • cherddoriaeth glasurol

Fodd bynnag, mae Neuadd Dewi Sant yn fwy na neuadd gyngerdd yn unig - mae yna gynteddau eang â chyfleusterau bar gan gynnwys Lolfa Jin (gwiriwch yr oriau agor). 

Hanes Byr

I’r penseiri Seymour Harris Partnership roedd cynllunio Neuadd Dewi Sant yn gomisiwn anghyffredin, os nad heb ei ail, am sawl rheswm. Y bennaf her oedd sut i ddarparu neuadd gyngerdd fawr â 2,000 o seddi yn y lle cyfyng oedd ar gael ac i gymhlethu hyn ymhellach roedd rhaid gwasgu’r adeilad i ganolfan siopa oedd eisoes wedi’i chynllunio ac ar hanner ei chodi.

Y canlyniad oedd, choeliech chi fawr o fewn pum mlynedd o synio amdani hyd at ei chwblhau, codi neuadd gyngerdd drawiadol â lle i 2,000 a chanddi, gellid dadlau, yr acwsteg orau yn Ewrop, yn union dros ben rhodfa siopa Canolfan Dewi Sant. At hynny, mae gan yr adeilad swyddfeydd, ystafelloedd gwisgo cynhwysfawr, ystafelloedd cyfarfod a chyfleusterau cynadledda, dau le i fwyta, arddangosfeydd ar dri llawr, a man croeso eang.

Gwelodd hydref 1982 ddyddiau cynhyrfus yn y Neuadd Dewi Sant newydd. Denodd y ‘diwrnod agored’ arbennig ar 30 Awst 1982 21,000 o bobol; naw niwrnod yn ddiweddarach daeth y cyngerdd cyhoeddus cyntaf, ymarfer agored am ddim gan Gôr Polyffonig Caerdydd. Erbyn i’r Fam Frenhines berfformio’r agoriad swyddogol ym mis Chwefror 1983, roedd Neuadd Dewi Sant eisoes wedi gweddnewid bywyd artistig y Brifddinas. Ys dywedodd Ei Mawrhydi, ‘This exciting development will add greatly to the quality of life for the city of Cardiff and the people of the Principality.’

Mae Caerdydd, prifddinas Cymru, yn cynnig adloniant, chwaraeon, llefydd i fwyta, cyfleusterau hamdden, llefydd o ddiddordeb i roi tro amdanyn nhw a phennaf ddigwyddiadau yn rheolaidd, gyda denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae Neuadd Dewi Sant yn dal i fod yn un o’r oedfannau blaenllaw yn natblygiad diwylliannol a pharhaol Caerdydd yn un o’r dinasoedd mwyaf cosmopolitanaidd yn Ewrop.

  Mae Neuadd Dewi Sant yn eiddo, dan reolaeth a than nawdd Cyngor Sir Caerdydd gyda chymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

     

Ymuno â'r rhestr bostio