Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Mynediad

Cynllun Hynt

Eicon Hynt
Cynllun cenedlaethol sy'n cydweithio â theatrau a chanolfannau celfyddydol o Fôn i Fynwy yw ‘hynt', er mwyn sicrhau hygyrchedd a pholisi tocynnau clir a chyson.

Mae rhai â cherdyn hynt yn gallu hawlio tocyn am ddim ar gyfer cynorthwyydd personol neu ofalwr yn y Neuadd Dewi Sant, ac mae pob theatr a chanolfan gelfyddydol yn rhan o'r cynllun. 

Nodwch mai dim ond drwy ffonio 02920 878444 neu mewn person y gellir archebu tocynnau ar hynt.  

Sylwer mai dim ond hyn a hyn o docynnau pris gostyngedig  sydd ar gynnig. Felly fe’ch cynghorwn i archebu’n fuan ar ôl i’r sioe fynd ar werth.

Ewch i gwefan hynt i gael mwy o wybodaeth am y cynllun a sut i ymuno.

I gael rhagor o wybodaeth am gonsesiynau, ewch i’n tudalen Gostyngiadau a Chonsesiynau

I gael rhagor o wybodaeth am fynediad, ewch i dudalen Canllaw Mynediad Neuadd Dewi Sant

Dyddiad terfyn cardiau Hynt

Cofiwch fod cardiau Hynt wedi mynd heibio’u dyddiad terfyn yn dal i fod yn DDILYS i’w defnyddio, a ninnau’n aros lansio’r cynllun mynediad ledled gwledydd Prydain yn 2024.

Stori Weledol

Mae ein Stori Weledol yn helpu ymwelwyr i baratoi ar gyfer ymweliad â Neuadd Dewi Sant ac ymgyfarwyddo â’r safle cyn cyrraedd. 

Gwasanaethau i Gwsmeriaid Anabl parhad

Casglu a Gollwng

I Godi a Gollwng cwsmeriaid y Neuadd, ewch i Stryd Wharton (mae Waterstones a Howells i’w cael ar ben y stryd), sydd tua chan medr o’r oedfan.

Eicon y Swyddfa DocynnauAnghenion eistedd

Os oes gennych ofynion eistedd penodol rhowch wybod i’r Swyddfa Docynnau pan fyddwch chi’n codi tocynnau.  

Eicon defnyddiwr cadair olwynCyfleusterau cadeiriau olwyn

Mae cyfleusterau ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn yn cynnwys lloriau gwastad, cyfleusterau tai bach (yn y Bwyty ac ar Lefelau 2,3,4 a 5) a chownteri lefel isel yn y Swyddfa Docynnau, yr Ystafell Gotiau a Bar Lefel 3. Caiff defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith gadw seddi yng nghefn y stalau am bris y tocyn rhataf sydd ar gael, a bwrw’u bod ar gael, i’r perfformiad. Efallai y caiff cwsmeriaid a chanddyn nhw anawsterau cerdded mai seddi’r stalau ydi’r hawsaf i fynd iddyn nhw.

Eicon â nam ar ei olwgFformatau Braille a llythrennau bras

Mae gwybodaeth am ddigwyddiadau ar gael mewn fformatau Braille a phrint bras o’r ddesg ar lawr gwaelod y Neuadd, Llyfrgell Ganolog Caerdydd a Sefydliad y Deillion Caerdydd. I gael eich copi eich hun rhowch ganiad i’r Adran Farchnata ar 029 2087 8542.

Eicon cŵn tywysCŵn cymorth

Mae croeso i gŵn cymorth yn Neuadd Dewi Sant a gellir cael lle iddyn nhw mewn rhannau addas o’r awditoriwm. Os ydi’n well gennych, mae modd i’n tîm Blaen Tŷ ofalu am gŵn yn ystod y perfformiad– gan gynnwys mynd â nhw am dro a rhoi dŵr yfed iddyn nhw os oes gofyn. Cofiwch roi gwybod i’r Swyddfa Docynnau am unrhyw ofynion pan fyddwch chi’n codi’ch tocynnau.


Gallwch ddarllen ein datganiad mynediad i ddysgu mwy am sut rydym ni yn Neuadd Dewi Sant yn gweithio i wneud ein gwefan yn hygyrch

Ymuno â'r rhestr bostio