Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Disgowntiau a Thocynnau Mantais

Tocynnau Mantais Safonol

Efallai y bydd rhai neu bob un o’r disgowntiau yma ar gael ar gyfer rhai digwyddiadau:

  • Cyfeillion Neuadd Dewi Sant
  • Plant dan 16
  • Myfyrwyr
  • *Pobol dros eu 60
  • Pobol anabl (ynghyd ag un cydymaith)
  • Pobol ddigyflog

Dim ond un disgownt gewch chi’i ddefnyddio ar bob tocyn ac mae gofyn prawf o’ch statws. Cofiwch ddweud pa ddisgownt rydych chi’n ei hawlio pan fyddwch chi’n codi tocynnau.

Nodwch y byddai’n rhaid i chi ddewis tocyn ar gyfer y person Anabl a’i gydymaith wrth hawlio’r consesiwn hwn gan nad yw tocyn y cydymaith yn cael ei gynnwys yn awtomatig.

Caiff defnyddwyr cadeiriau olwyn (ynghyd ag un cydymaith) godi tocynnau’r stalau am bris y tocyn rhataf i sioeau sy’n dangos y gostyngiad yma. Dydi llefydd cadeiriau olwyn ddim bob amser ar gael a dylid eu harchebu nhw trwy’r Swyddfa Docynnau, nid ar lein, i ymorol am gwrdd ag anghenion penodol cwsmeriaid. 

Tocynnau myfyrwyr

Mae tocynnau myfyrwyr ar gael am hanner pris i gyngherddau cerddorfaol yng Nghyfres Cyngherddau Cerddorfaol Neuadd Dewi Sant. Mae disgowntiau hefyd ar gael i ddigwyddiadau dethol eraill – gweler y manylion ar y tudalennau Beth sydd Ymlaen unigol. 

Plant

Mae yna ostyngiadau a phrisiau arbennig i lawer o ddigwyddiadau. Gweler y paneli prisiau ar gyfer digwyddiadau unigol. Er eich cysur a’ch diogelwch chi’ch hun, bydd gofyn tocyn ar bob plentyn oed cerdded. 

Grwpiau

Dewch â pharti a chael arbedion gwerth chweil! Mae Neuadd Dewi Sant yn croesawu grwpiau o bob maint; rhoddir disgowntiau ar ddigwyddiadau dethol i grwpiau o ddeg neu fwy. 

Am fwy o wybodaeth ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444 lle bydd aelod o Dîm y Swyddfa Docynnau yn falch o gynorthwyo.

Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith

Caiff defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith brynu seddi’r stalau am bris y tocyn rhataf i sioeau sy’n dangos y gostyngiad yma.  Does dim dal y bydd mannau cadeiriau olwyn ar gael a dylid eu cadw drwy’r Swyddfa Docynnau, nid ar lein, er mwyn ymorol am gwrdd ag anghenion penodol cwsmeriaid.

Hynt

Cynllun cenedlaethol ydi Hynt, sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydau ledled Cymru i ymorol bod pethau’n glir ac yn gyson o ran polisi tocynnau teg a hygyrchedd.

Mae gan ddeiliaid cardiau Hynt hawl ar docyn yn rhad ac am ddim i gynorthwywr personol neu ofalwr yn Neuadd Dewi Sant a’r holl theatrau a chanolfannau celfyddydau sy’n cymryd rhan yn y cynllun.

Ewch i wefan Hynt i gael yr holl wybodaeth am y cynllun ac i ymuno.

Tocynnau Teulu

Tocynnau Teulu ar gael ar gyfer digwyddiadau penodol. Mae hyn yn berthnasol i deulu o 4 sy’n cynnwys uchafswm o 2 oedolyn a 2 blentyn dan 16 oed.

*Efallai na fydd y disgownt yma’n ar waith ar gyfer rhai perfformiadau. Teleffon 029 2087 8444.

Ymuno â'r rhestr bostio