Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Amodau a Thelerau

Cyfleuster ydi Neuadd Dewi Sant a ddarparir gan Gyngor Caerdydd ac y cyfeirir ato o hyn allan fel “Neuadd Dewi Sant”.

 

Rydym yn gwneud ein gorau glas i ymorol bod yr holl wybodaeth hyrwyddo a gyflenwir yn gywir ond rydym yn argymell eich bod chithau’n ymorol yn briodol am wirio gwybodaeth o’r fath. Mae Neuadd Dewi Sant yn gwadu’n ffurfiol bob atebolrwydd dros unrhyw golled neu niwed uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol a achosir os bydd y defnyddiwr yn dibynnu ar unrhyw ddatganiad, gwybodaeth neu gyngor sydd yn neunydd print Neuadd Dewi Sant, ar y wefan neu unrhyw ddeunydd hyrwyddo a gynhyrchir gan y corff.

Mae derbyn eich archeb yn creu cytundeb cyfreithiol gyfrwymol rhwng Neuadd Dewi Sant a chi. Rheolir y cytundeb rhwng Neuadd Dewi Sant a chi a’i ddehongli yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr, a bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdod i dorri unrhyw ddadleuon.

O roi eich archeb rydych yn gwarantu bod yr holl fanylion a rowch i ni at ddiben codi tocynnau, archebu neu brynu nwyddau neu wasanaethau yn gywir, mai chi piau’r cerdyn credyd neu ddebyd rydych yn ei ddefnyddio a bod yno ddigon o gyllid i ymorol am gost y tocyn neu’r gwasanaeth. Os oes yna unrhyw newidiadau yn y manylion a rowch chi eich cyfrifoldeb chi ydi rhoi gwybod i ni.

Does dim dal y bydd tocynnau bob amser ar gael.

Mae gan staff Neuadd Dewi Sant awdurdod i wrthod gadael i chi fynd i mewn i’r oedfan ac maen nhw’n cadw’r hawl i wneud hynny os ydi’ch ymddygiad chi, yn eu barn ddiamod, cyfryw a’i fod yn debygol o darfu neu aflonyddu ar bobol eraill sy’n dod i’r Neuadd. Ceidw Neuadd Dewi Sant hefyd yr hawl i roi terfyn ar eich caniatâd i fod yn yr adeilad a’ch troi allan.

Rhaid i bob aelod o’r gynulleidfa feddu ar docyn dilys. Ni fydd tocynnau wedi’u newid neu eu difwyno yn ddilys.

Dydi cadarnhad derbyn eich archeb trwy e-bost ddim yn gwarantu gwerthiant y tocyn (achosion rhyngrwyd yn unig).
Cofiwch wirio eich tocynnau gan nad oes bob amser modd cywiro camgymeriadau.

Ceidw Neuadd Dewi Sant yr hawl i newid neu amrywio’r perfformiad / digwyddiad oherwydd digwyddiadau neu amgylchiadau’r tu hwnt i’n rheolaeth heb orfod ad-dalu arian na newid tocynnau. Dydi hyn ddim yn effeithio ar eich hawliau statudol.

Dydi Neuadd Dewi Sant ddim yn gallu gwarantu cwrdd â’ch disgwyliadau personal chi gan berfformiwr neu berfformiad. Mae hyn am fod disgwyliadau personal a beth sydd at ein dant ni yn ddi-ben-draw o amrywiol. At hynny, dydi Neuadd Dewi Sant ddim yn gallu gwarantu na chewch chi mo’ch pechu gan iaith, ymddygiad neu olwg unrhyw berfformiwr. Rydym yn argymell eich bod yn holi yn y Swyddfa Docynnau cyn codi tocyn os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch natur perfformiad. Bydd polisi ad-dalu Neuadd Dewi Sant ar waith.

Mae Neuadd Dewi Sant yn rhoi gwerth ar ymroddiad mynychwyr theatr yn codi tocynnau’n fuan ac mae’n cydnabod bod argyfyngau weithiau’n nadu i bobol ddod. Mae’r ddau wasanaeth sy’n dilyn ar gael:

Ceir ffeirio tocynnau am unrhyw ddigwyddiad arall am yr un pris neu fwy (o dalu’r gwahaniaeth).  Rhaid i docynnau ddod i law yn y Swyddfa Docynnau dim hwyrach na 24 awr cyn y perfformiad gwreiddiol. Mae yna dâl o £2.00 per ticket am y gwasanaeth yma. (Gwaetha’r modd, ni ellir ffeirio nac ailwerthu yn Neuadd Dewi Sant docynnau a godir trwy Ganolfan Gofal Cwsmeriaid y BBC neu asiantaethau allanol).

Fel arall, derbynnir tocynnau i’w cynnig i’w hailwerthu ar yr amod benodol mai tocynnau Neuadd Dewi Sant sydd heb eu gwerthu a werthir gyntaf. Cynigir y gwasanaeth ailwerthu yma ar yr amod eich bod chi’n derbyn na dydi Neuadd Dewi Sant ddim yn gwarantu y bydd unrhyw docyn a gynigir ar gyfer ei ailwerthu yn cael prynwr newydd. Mae’r gwasanaeth yma ar gael ar yr amod llwyr eich bod yn dychwelyd y tocynnau gwreiddiol yn gyntaf i’r Swyddfa Docynnau a’ch bod yn cytuno ymlaen llaw i dalu cost dros ben o 10% am y gwasanaeth ar werth unrhyw docyn a werthir.

Ar wahân i’r ddau wasanaeth uchod neu os canslir perfformiad, does dim ad-daliadau neu ran ohonyn nhw ar gael ar ôl i chi godi tocyn.

Mae meddu ar docyn dilys yn rhoi hawl i’r deiliad fynd i’r awditoriwm yn union cyn dechrau’r perfformiad ond unwaith y bydd y perfformiad wedi dechrau mae’r canlynol ar waith.  Er mwyn peidio â tharfu ar y gynulleidfa a’r perfformwyr, ni chaiff hwyrddyfodiaid fynd i mewn i’r awditoriwm tan yr egwyl. Efallai y bydd modd dilyn y perfformiad ar deledu cylch cyfyng yn y barrau.

Ni chaniateir ar unrhyw gyfrif wneud recordiadau na ffotograffiaeth, gyda neu heb fflach.

Rhaid i chi ddiffodd cyfleuster canu eich ffôn symudol pan fyddwch chi yn yr awditoriwm neu’n agos ato. Yn yr un modd, rhaid i chi beidio â siarad ar ffôn symudol pan fyddwch chi yn yr awditoriwm neu’n agos ato. Mewn argyfwng gewch chi siarad ar ffôn symudol yn ymyl y Swyddfa Docynnau ond ar wahân i hynny rhaid i chi wneud hynny’r tu allan i’r oedfan.

Dylech ddwyn unrhyw gwynion am y sioe neu’r olygfa o’r seddi i’r Rheolwr ar Ddyletswydd yn ddi-oed, cyn neu yn ystod y perfformiad.

Ceidw Neuadd Dewi Sant yr hawl iddi hi ei hun neu drydydd person wneud ffilmio a recordio sain cyffredinol yn yr adeilad neu ei gyffiniau. Mae codi tocyn yn golygu bod y deiliad yn cydsynio i gael tynnu ei lun neu recordio ei lais ac i’r defnydd masnachol o ffilm neu recordiad o’r fath heb unrhyw hawl ar daliad. Rhaid i unrhyw ddeiliad tocyn sy’n gwrthwynebu cael tynnu ei lun neu ei recordio roi gwybod i’r Rheolwr ar Ddyletswydd cyn i’r perfformiad ddechrau.

Cynigir GOSTYNGIADAU PLANT i bobol ifanc os ydyn nhw’n dal yn yr ysgol. Ddylech chi ddim tybio bod caffaeledd gostyngiadau plant yn golygu y byddech chi’n cael y sioe’n addas ar gyfer pawb yn y categori yma. Gan fod barnau rhieni/gwarcheidwaid o ran beth sy’n addas ar gyfer ystod oedran neilltuol yn amrywio gryn dipyn, rhaid i chi eich argyhoeddi’ch hun o ran addasrwydd sioe o holi’n gyntaf yn y Swyddfa Docynnau.
Dydi rhai perfformiadau ddim yn addas ar gyfer plant bach iawn (o dan ddwyflwydd). Er eich cysur chi eich hun a chyngherddwyr eraill byddem yn argymell i blant o dan ddwyflwydd beidio â mynd i berfformiadau a hysbysebir ar gyfer grwpiau oedran penodol.

Mae arweinwyr grwpiau ieuenctid (gan gynnwys partïon ysgol) yn gyfrifol am ymddygiad eu parti. Dydi Neuadd Dewi Sant ddim yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am oruchwylio pobol ifanc yn eich gofal chi. Rhaid i chi ymorol bod digon o staff goruchwylio yn dod gyda’r parti. Gofynnir i’r parti neu rai ohonyn nhw adael y theatr os tarfir ar y perfformwyr neu’r gynulleidfa.

Pan fyddwch chi’n archebu gan Neuadd Dewi Sant bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei storio ar system gyfrifiadurol y Swyddfa Docynnau. O wneud archeb rydych yn cydsynio i storio eich gwybodaeth bersonol yn unol â’r Deddfau Amddiffyn Data. Gofynnir i chi a geir defnyddio’r wybodaeth yma:

  • i roi gwybod i chi am gynyrchiadau neu ddatblygiadau i ddod yn Neuadd Dewi Sant neu’r New Theatre;
  • gan gyrff eraill yn y celfyddydau neu gynhyrchwyr sioeau at ddiben tebyg;
  • gan gyrff eraill wedi’u dethol yn ofalus sydd heb fod yn y celfyddydau i roi rhagor o wybodaeth allai fod o ddiddordeb i chi.

Dywedwch pa ddewisiadau sy’n dderbyniol gennych. Bydd hyn yn ein galluogi ni i brosesu eich gwybodaeth bersonol yn ôl eich dymuniadau chi.

Bydd gwybodaeth bersonol yn ymwneud ag archebion i gynyrchiadau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cael ei rhannu â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Mae prosesau Neuadd Dewi Sant yn cydymffurfio â Deddf Amddiffyn Data 1998.

Mae ein gwefannau a’n Hysbysebion Swyddogol yn cael eu rheoli, eu cynhyrchu a’u gweithredu gan Neuadd Dewi Sant o’n swyddfeydd yn y Deyrnas Unedig. Dydi Neuadd Dewi Sant ddim yn honni bod y deunydd a’r wybodaeth a ddangosir ar ein gwefan neu sydd ar gael drwy ein gwefan yn addas nac ar gael i’w defnyddio mewn Gwledydd eraill y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Ymuno â'r rhestr bostio