Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Polisi Preifatrwydd

Bydd Neuadd Dewi Sant yn prosesu eich data personol at ddiben creu a rheoli archebion.  Mae Neuadd Dewi Sant yn gyfleuster a ddarparir gan Gyngor Caerdydd, sef y Rheolwr Data at y diben hwn.Mae Cyngor Caerdydd yn gofrestredig â Swyddfa’r Comisiynwr Gwybodaeth a bydd yn prosesu unrhyw wybodaeth yn unol â Deddf Diogelu Data 2018.

Mae’r wybodaeth rydym yn ei chasglu gennych chi’n cynnwys:

  • Gwybodaeth cysylltu – enw, cyfeiriad, rhiff ffôn a chyfeiriad ebost.
  • Gwybodaeth ariannol – manylion cardiau credyd/debyd
  • Gwybodaeth archebu ynghylch y sioeau y daethoch iddynt.

Defnyddiwn eich data personal i:

  • Brosesu a chofnodi taliadau archebu
  • Eich hysbysu ynghylch unrhyw newidiadau yn eich archeb
  • Defnyddio data dienw i ddadansoddi patrymau a thudeddiadau archebu.
  • Anfon gwybodaeth atoch am gynyrchiadau a digwyddiadau i ddod, lle rhoddwyd caniatâd

Er mwyn prosesu taliadau byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â’ch banc neu gyrff eraill lle bo gofyn yn ôl y gyfraith.

Dim ond gyhyd ag y bo gofyn y cadwn eich data personol a byddwn yn dileu eich data pan na fydd bellach yn ofynnol.

O bryd i’w gilydd bydd Neuadd Dewi Sant  yn anfon gwybodaeth am ddigwyddiadau i ddod, lle rhoddwyd caniatâd ymlaen llaw. Os nad oes arnoch bellach eisiau cael yr hysbysiadau hyn, mae gennych yr hawl i ddiddymu eich caniatâd pryd y mynnwch.Gallwch wneud felly drwy gysylltu â ni drwy ebost St.DavidsHallReception@cardiff.gov.uk neu deleffon 029 2087 8444.

Mae gennych yr hawl i weld copïau’r data rydym yn eu dal yn eich cylch a gallwch ofyn am gywiro eich data personol os ydi’n anghywir neu wedi dyddio.

I weld polisi preifatrwydd llawn Cyngor Caerdydd neu i gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ewch i https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Hafan/Ymwadiad/Pages/default.aspx

Ymuno â'r rhestr bostio